Ynglŷn â'r cwrs
Byddwch yn cael dealltwriaeth gynhwysfawr o ddiffiniadau amddiffyn a diogelu plant ac yn gallu adnabod y mathau o gam-drin ac ecsbloetio a'u dangosyddion. Bydd yr hyn a ddysgir yn cael ei ategu gan olwg fanwl ar ddeddfwriaeth, ac arferion, polisïau a gweithdrefnau diogelu sefydliadol.
Byddwch yn archwilio rolau a chyfrifoldebau lleoliadau gwaith ieuenctid ac yn gallu nodi asiantaethau cymorth yn hyderus. Bydd hyn yn cynnwys deall dyletswydd gofal, safle ymddiriedaeth a datblygu perthnasoedd ffiniol gyda phobl ifanc. Wrth archwilio gwerthoedd ac egwyddorion gwaith ieuenctid, byddwch yn ymchwilio i wahaniaeth ac amrywiaeth diwylliannol a sut y gall eich credoau a'ch gwerthoedd personol lywio ymarfer.
Er mwyn cwblhau'r Rhaglen Gymeradwy NOCN hon yn llwyddiannus, rhaid i chi gwblhau pob elfen o'r cwrs yn ôl y cyfarwyddiadau, mae hyn yn cynnwys tri chwis gyda chyfradd basio ddisgwyliedig o 80%. Cofiwch, peidiwch â phoeni os na chewch chi 80% y tro cyntaf, gallwch ailedrych ar benodau'r cwrs a'r cwisiau.
Bydd eich gwobr yn cael ei hanfon yn uniongyrchol gan y sefydliad dyfarnu o fewn mis i'w chwblhau.
Cost
£30 (gan gynnwys TAW)
Lefel
Canolradd