Mae gwaith ieuenctid o ansawdd uchel yn allweddol i hyrwyddo lles, datgloi talentau pobl ifanc a chreu ymdeimlad o berthyn.
Drwy Adolygiad Gwasanaeth, bydd yr NYA yn mapio eich darpariaeth bresennol , yn nodi bylchau ac yn datblygu cynllun gweithredu clir, sy'n canolbwyntio ar eich blaenoriaethau penodol. Mae pob adolygiad yn arwain at adroddiad argymhellion a fydd yn darparu canllaw cam wrth gam i gryfhau eich Cynnig Ieuenctid lleol , gan sicrhau ei fod yn cael ei arwain gan ieuenctid mewn gwirionedd ac yn addas ar gyfer y dyfodol.
Pam adolygu eich cynnig gwaith ieuenctid ?
Os ydych chi'n Arweinydd Cyngor, yn Bennaeth Gwasanaeth neu'n gyfrifol am ddiogelu, darparu cefnogaeth ymyrraeth gynnar neu'n gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu mentrau i leihau troseddu ac ecsbloetio yn ardal eich Awdurdod Lleol, yna gall Adolygiad Gwasanaeth eich helpu i ystyried y ffordd orau o integreiddio gwaith ieuenctid i'r mentrau newydd sydd ar y gorwel.
Drwy Adolygiad Gwasanaeth, wedi'i deilwra i'ch anghenion a'ch cyllideb, gallwn roi'r offer a'r arbenigedd i chi i fapio'ch darpariaeth bresennol a chynllun clir ar gyfer cryfhau'ch cynnig gwaith ieuenctid, gan gydweithio'n agos â phartneriaid cyflawni yn y sector gwirfoddol, cymunedol a ffydd.
Mae deall eich ecosystem gwaith ieuenctid leol a gallu mapio hyn yn erbyn anghenion pobl ifanc yn eich ardal yn hanfodol er mwyn i chi ddarparu a chomisiynu gwaith ieuenctid effeithiol ac i gyflawni eich Dyletswydd Statudol i ddarparu cynnig ieuenctid digonol.
Beth mae Adolygiad Gwasanaeth yn ei gynnwys ?
Rydym yn cynnig dewislen o opsiynau ar gyfer eich adolygiad yn dibynnu ar lefel y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch a'r gyllideb sydd ar gael i chi.
Mae elfennau allweddol adolygiad yn cynnwys:
- Asesiad anghenion cynhwysfawr : Dadansoddiad daearyddol a demograffig manwl o anghenion pobl ifanc, wedi'i gefnogi gan arolygon a grwpiau ffocws gyda rhanddeiliaid allweddol
- Adolygiad o'r ddarpariaeth bresennol : Mapio a dadansoddi gwasanaethau ieuenctid cyfredol, gan gynnwys cyfranogiad ieuenctid ac anghenion hyfforddi cynghorwyr ifanc, a chydweithio amlasiantaethol â gweithwyr ieuenctid, gan gynnwys y rhai a ddefnyddir mewn gwasanaethau cysylltiedig.
- Archwiliad diogelu : Adolygiad o'ch polisi a'ch proses diogelu o fewn yr awdurdod lleol a'i grantiaid / darparwyr comisiynedig
- Astudiaethau achos ac arfer gorau : Enghreifftiau craff sy'n tynnu sylw at arfer effeithiol mewn darpariaeth ac ymgysylltiad ieuenctid
- Dadansoddi bylchau ac argymhellion : Nodi bylchau mewn gwasanaethau a chyflwyno adroddiad terfynol gydag argymhellion ymarferol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Mae adolygiad fel arfer yn cymryd rhwng tri a naw mis i'w gyflawni.
Ar ôl cynnal adolygiad gwasanaeth yn 2021, dywedodd cynrychiolydd Cyngor Blackpool , Lisa Arnold, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, portffolio Gwasanaeth Ieuenctid (tan fis Awst 2024 ) :
“Roedd y gwaith a wnaeth NYA o ansawdd rhagorol ac mae wedi chwarae rhan hanfodol wrth lywio’r daith yr ydym arni fel tref o ran darpariaeth ieuenctid.
“Mae’r adolygiad cadarn hwn wedi arwain at ymrwymiad gan bob partner i gefnogi dull cydweithredol o ddatblygu darpariaeth ieuenctid yn y tymor hir. Mae’r berthnasoedd a’r partneriaethau â’r trydydd sector bellach yn llawer cryfach nag ar ddechrau’r daith hon, gyda gweledigaeth glir o’r hyn yr ydym yn ceisio’i gyflawni ar y cyd, sy’n cael effaith gadarnhaol ar ddatblygiad darpariaeth ieuenctid ledled y dref ond hefyd ar agendâu eraill y mae ganddynt gyfle bellach i’w llunio a dylanwadu arnynt.”
Tîm NYA
Mae gan dîm NYA gyfoeth o brofiad o ddylunio a chyflwyno gwaith ieuenctid effeithiol o ansawdd uchel a sut i nodi a mesur ansawdd, arfer gorau a pherfformiad .
Mae gan lawer o'r tîm gefndir mewn darparu a rheoli gwasanaethau ieuenctid gan Awdurdodau Lleol, ac arbenigedd penodol mewn:
- Ymarfer gwaith ieuenctid
- Diogelu
- Ymchwil ieuenctid a dadansoddi data
- Dysgu a datblygu
- Polisi a deddfwriaeth
Faint mae Adolygiad Gwasanaeth yn ei gostio?
Mae adolygiadau gwasanaeth yn dechrau ar oddeutu £10,000 i dros £50,000 yn dibynnu ar ofynion eich Awdurdod Lleol a chwmpas y gwaith i'w wneud.
Am sgwrs heb rwymedigaeth ynglŷn â sut y gallwn eich helpu cysylltwch â consultancy@nya.org.uk