Croeso i'n gwefan. Os byddwch yn parhau i bori a defnyddio'r wefan hon, rydych yn cytuno i gydymffurfio â'r telerau ac amodau defnyddio canlynol a bod yn rhwym iddynt, sydd ynghyd â'n polisi preifatrwydd yn llywodraethu perthynas Asiantaeth Ieuenctid Genedlaethol â chi mewn perthynas â'r wefan hon.
Mae'r term "Asiantaeth Ieuenctid Genedlaethol", "NYA", "ni" neu "rydym" yn cyfeirio at berchennog y wefan y mae ei swyddfa gofrestredig yn 9 Newarke Street, Leicester, LE1 5SN. Rhif cofrestru ein cwmni yw 2912597 a'n rhif elusen yw 1035804. Mae'r term "chi" yn cyfeirio at ddefnyddiwr neu ymwelydd ein gwefan.
Mae defnyddio'r wefan hon yn ddarostyngedig i'r telerau defnyddio canlynol:
- At eich gwybodaeth a'ch defnydd cyffredinol yn unig y mae cynnwys tudalennau'r wefan hon. Gall newid heb rybudd.
- Nid ydym ni nac unrhyw drydydd partïon yn darparu unrhyw warant na sicrwydd ynghylch cywirdeb, amseroldeb, perfformiad, cyflawnrwydd nac addasrwydd y wybodaeth a'r deunyddiau a geir neu a gynigir ar y wefan hon at unrhyw ddiben penodol. Rydych yn cydnabod y gall gwybodaeth a deunyddiau o'r fath gynnwys anghywirdebau neu wallau ac rydym yn eithrio atebolrwydd yn benodol am unrhyw anghywirdebau neu wallau o'r fath i'r graddau mwyaf a ganiateir gan y gyfraith.
- Rydych yn defnyddio unrhyw wybodaeth neu ddeunyddiau ar y wefan hon yn gyfan gwbl ar eich risg eich hun, ac ni fyddwn yn atebol am hynny. Eich cyfrifoldeb chi fydd sicrhau bod unrhyw gynhyrchion, gwasanaethau neu wybodaeth sydd ar gael trwy'r wefan hon yn bodloni eich gofynion penodol.
- Mae'r wefan hon yn cynnwys deunydd sy'n eiddo i ni neu wedi'i drwyddedu i ni. Mae'r deunydd hwn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, y dyluniad, y cynllun, yr olwg, yr ymddangosiad a'r graffeg. Gwaherddir atgynhyrchu ac eithrio yn unol â'r hysbysiad hawlfraint, sy'n rhan o'r telerau ac amodau hyn.
- Cydnabyddir ar y wefan yr holl nodau masnach a atgynhyrchir yn y wefan hon, nad ydynt yn eiddo i'r gweithredwr, nac wedi'u trwyddedu iddo.
- Gall defnyddio’r wefan hon heb awdurdod arwain at hawliad am iawndal a/neu fod yn drosedd.
- O bryd i'w gilydd gall y wefan hon hefyd gynnwys dolenni i wefannau eraill. Darperir y dolenni hyn er hwylustod i chi er mwyn darparu rhagor o wybodaeth. Nid ydynt yn golygu ein bod yn cymeradwyo'r wefan(nau). Nid oes gennym unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y wefan(nau) gysylltiedig.
- Dim ond wrth gyfeirio at ein cynnwys mewn deunyddiau addysgol neu ganllawiau sy'n ymwneud â gwaith ieuenctid y cewch gysylltu â'r wefan hon. Rhaid rhoi caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan yr Asiantaeth Ieuenctid Genedlaethol ar gyfer dolenni o unrhyw fathau eraill o wefan neu ddogfennaeth.
- Mae eich defnydd o'r wefan hon ac unrhyw anghydfod sy'n deillio o'r defnydd hwnnw o'r wefan yn ddarostyngedig i gyfreithiau Cymru a Lloegr.
Ymwadiad gwefan
At ddibenion gwybodaeth gyffredinol yn unig y mae'r wybodaeth a gynhwysir yn y wefan hon. Darperir yr wybodaeth gan Asiantaeth Ieuenctid Genedlaethol ac er ein bod yn ymdrechu i gadw'r wybodaeth yn gyfredol ac yn gywir, nid ydym yn gwneud unrhyw gynrychioliadau na gwarantau o unrhyw fath, yn benodol nac yn oblygedig, ynghylch cyflawnrwydd, cywirdeb, dibynadwyedd, addasrwydd neu argaeledd mewn perthynas â'r wefan neu'r wybodaeth, cynhyrchion, gwasanaethau, neu graffeg gysylltiedig a gynhwysir ar y wefan at unrhyw ddiben. Felly, mae unrhyw ddibyniaeth a roddwch ar wybodaeth o'r fath ar eich risg eich hun yn llwyr.
Ni fyddwn yn atebol mewn unrhyw achos am unrhyw golled neu ddifrod gan gynnwys, heb gyfyngiad, colled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol, neu unrhyw golled neu ddifrod o gwbl sy'n deillio o golli data neu elw sy'n deillio o neu mewn cysylltiad â defnyddio'r wefan hon.
Drwy’r wefan hon gallwch gysylltu â gwefannau eraill nad ydynt o dan reolaeth yr Asiantaeth Ieuenctid Genedlaethol . Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros natur, cynnwys ac argaeledd y safleoedd hynny. Nid yw cynnwys unrhyw ddolenni o reidrwydd yn awgrymu argymhelliad na chymeradwyaeth y safbwyntiau a fynegir ynddynt.
Gwneir pob ymdrech i gadw'r wefan ar waith ac yn rhedeg yn esmwyth. Fodd bynnag, nid yw'r Asiantaeth Ieuenctid Genedlaethol yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am ac ni fydd yn atebol am beidio â bod ar gael dros dro oherwydd problemau technegol y tu hwnt i'n rheolaeth.
Hysbysiad hawlfraint
Mae'r wefan hon a'i chynnwys yn hawlfraint i “ Asiantaeth Ieuenctid Genedlaethol ” – © “ Asiantaeth Ieuenctid Genedlaethol ” 2024. Cedwir pob hawl.
Gwaherddir unrhyw ailddosbarthu neu atgynhyrchu rhan neu'r cyfan o'r cynnwys ar unrhyw ffurf ac eithrio'r canlynol:
Gallwch argraffu neu lawrlwytho detholiadau i ddisg galed leol at eich defnydd personol ac anfasnachol yn unig.
Gallwch gopïo’r cynnwys i drydydd partïon unigol at eu defnydd personol, ond dim ond os ydych chi’n cydnabod y wefan fel ffynhonnell y deunydd.
Ni chewch, ac eithrio gyda'n caniatâd ysgrifenedig penodol, ddosbarthu na manteisio'n fasnachol ar y cynnwys. Ni chewch ychwaith ei drosglwyddo na'i storio mewn unrhyw wefan arall na math arall o system adfer electronig.