Ar ôl gwrando ar y sector, mae'r safonau hyn wedi cael eu hadnewyddu, gan gynnwys ychwanegu'r Safon Iechyd, Diogelwch a Lles . Mae'r Safonau Diogelu ar gyfer y sector ieuenctid wedi'u cynllunio i gefnogi arferion diogelu da i bawb sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Mae'r ddogfen ganllaw hon yn amlinellu arfer gorau ar draws y sector ac yn darparu fframwaith defnyddiol i ddeall sut olwg sydd ar ddiogelu da mewn gwahanol gyd-destunau sefydliadol.
I ategu'r Safonau Diogelu, rydym wedi creu Offeryn Hunan-archwilio , a gynlluniwyd i helpu sefydliadau i fyfyrio ar eu harferion diogelu presennol a'u hasesu.
Bydd yr offeryn hwn yn eich helpu i nodi ble mae eich sefydliad yn sefyll ar hyn o bryd — p'un a ydych chi'n gweithio tuag at gydymffurfiaeth, yn adeiladu diwylliant diogelu, neu'n ymgorffori diwylliant o ragoriaeth diogelu (“ Diwylliant a Mwy ”). Ar ddiwedd y broses, bydd yr offeryn yn cynhyrchu cynllun gweithredu i'ch helpu i symud i'r cam nesaf neu gynnal Diwylliant a Mwy.
At eich defnydd mewnol yn unig y mae'r offeryn hwn. Ni chaiff unrhyw ddata o'r archwiliad ei gasglu na'i rannu — mae'n adnodd i gefnogi eich datblygiad a'ch dysgu eich hun.
“Mae’r offeryn hunan-archwilio hwn, sydd wedi’i adeiladu o amgylch Safonau Diogelu NYA, yn cefnogi dysgu, twf a datblygiad — gan helpu sefydliadau ieuenctid i gryfhau eu harferion diogelu ar bob lefel.” – Xyna Prasad , Arweinydd Diogelu a Risg Cenedlaethol
