“ Mae datblygu arweinwyr ifanc yn hanfodol i ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau a’u hyder ac mae hefyd yn hanfodol ar gyfer gweithlu’r sector yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae’n bwysig ein bod yn gwneud hyn yn ddiogel ac yn hyfforddi arweinwyr ifanc ar sut i ofalu amdanyn nhw eu hunain a’u rôl wrth gadw eraill yn ddiogel. Rydym yn falch o helpu i gynhyrchu’r cwrs hwn fel y gellir ymestyn yr arfer hwn ar draws y sector i sicrhau profiadau cadarnhaol i bobl ifanc sy’n edrych i fod yn arweinwyr yn eu cymuned leol.”
John Downes Cyfarwyddwr - Lle, Ieuenctid a Chwaraeon yn StreetGames
Ynglŷn â'r cwrs
Mae'r cwrs Diogelu Arweinwyr Ifanc yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i gyflawni agweddau allweddol ar ddiogelu, megis creu prosesau cryf, darparu goruchwyliaeth a chefnogaeth effeithiol , a darparu hyfforddiant trylwyr i arweinwyr ifanc ym mhob sefydliad ieuenctid – er mwyn sicrhau y gallant ffynnu yn eu rolau .
Byddwch chi'n dysgu am:
- Egwyddorion diogelu a gwaith ieuenctid i gefnogi arweinwyr ifanc
- Rôl arweinydd ifanc mewn cyd-destunau diogelu
- Protocolau a strategaethau i helpu arweinwyr ifanc i ymateb yn hyderus i bryder diogelu a'r angen am eu hunanofal a'u goruchwyliaeth benodol eu hunain.
Mae'r cwrs wedi'i ddatblygu mewn partneriaeth â StreetGames, sy'n harneisio pŵer chwaraeon i greu newid cadarnhaol ym mywydau pobl ifanc a chyflwyno hyfforddiant i arweinwyr cymunedol, hyfforddwyr chwaraeon a gweithwyr ieuenctid.
Cofrestrwch heddiw i ddod yn oedolyn gwybodus ac effeithiol y gellir ymddiried ynddo, gyda thechnegau, gwybodaeth a sgiliau wedi'u hymgorffori i ddarparu goruchwyliaeth, hyfforddiant a chefnogaeth effeithiol i'ch arweinwyr ifanc.
Cost
Am ddim
Lefel
Canolradd