Mae'r cwrs sylfaenol hwn yn amlinellu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi pobl ifanc nad ydynt mewn Cyflogaeth, Addysg na Hyfforddiant (NEET) neu sydd wedi'u gwahardd o'r ysgol. Dylai dysgwyr gael mynediad at amgylchedd gwaith go iawn i gael y gorau o'r cwrs hwn.
Ynglŷn â'r cwrs
- Sut gall gwaith ieuenctid gefnogi pobl ifanc i gydnabod manteision addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant a'u helpu i gyflawni eu nodau.
- Cael cipolwg ar rwystrau sy'n effeithio ar bobl ifanc, gan gynnwys y rhai sydd wedi'u gwahardd o'r ysgol, heriau mynediad at gyflogaeth a hyfforddiant, a'r effaith ar eu lles.
- Darganfyddwch y gwasanaethau cymorth cymunedol sydd ar gael a dysgwch sut i gynorthwyo pobl ifanc i gael mynediad at wybodaeth, canllawiau a'u hawliau.
Cost
Am ddim
Lefel
Sylfaenol