Mae ein strategaeth pum mlynedd newydd (2024 – 2029), Galluogi Gwaith Ieuenctid Gwych i Ddigwydd, Ein strategaeth ar gyfer gwaith ieuenctid ym mhob man a gofod, yn nodi ein huchelgeisiau beiddgar i adeiladu capasiti a chynaliadwyedd y sector gwaith ieuenctid.
Dros y pum mlynedd nesaf, ein ffocws strategol yw dangos gwerth gwaith ieuenctid a cheisio cyfleoedd i waith ieuenctid ddigwydd yn y lleoedd a'r mannau lle mae pobl ifanc.
Byddwn hefyd yn denu ymgeiswyr newydd i'r sector ac yn helpu i godi safonau ac ansawdd gwaith ieuenctid.