Neidio i'r prif gynnwys
chwilio

Diogelu mewn Lleoliad Gwaith Ieuenctid – (Rhaglen a Ardystir gan NOCN)

Byddwch yn cael dealltwriaeth gynhwysfawr o ddiffiniadau amddiffyn a diogelu plant ac yn gallu adnabod y mathau o gam-drin ac ecsbloetio a'u dangosyddion. Bydd yr hyn a ddysgir yn cael ei ategu gan olwg fanwl ar ddeddfwriaeth, ac arferion, polisïau a gweithdrefnau diogelu sefydliadol.

Byddwch yn archwilio rolau a chyfrifoldebau lleoliadau gwaith ieuenctid ac yn gallu nodi asiantaethau cymorth yn hyderus. Bydd hyn yn cynnwys deall dyletswydd gofal, safle ymddiriedaeth a datblygu perthnasoedd ffiniol gyda phobl ifanc. Wrth archwilio gwerthoedd ac egwyddorion gwaith ieuenctid, byddwch yn ymchwilio i wahaniaeth ac amrywiaeth diwylliannol a sut y gall eich credoau a'ch gwerthoedd personol lywio ymarfer.

Er mwyn cwblhau'r cwrs hwn sydd wedi'i gymeradwyo gan NOCN yn llwyddiannus, rhaid i chi gwblhau pob elfen o'r cwrs yn ôl y cyfarwyddiadau, mae hyn yn cynnwys tri chwis gyda chyfradd basio ddisgwyliedig o 80%. Cofiwch, peidiwch â phoeni os na chewch chi 80% y tro cyntaf, gallwch ailedrych ar benodau'r cwrs a'r cwisiau.

Bydd eich gwobr yn cael ei hanfon yn uniongyrchol gan y sefydliad dyfarnu o fewn mis i'w chwblhau.

Math o Ffeil: www
Categorïau: Cyrsiau DPP, Canolradd
Tagiau: £30 (gan gynnwys TAW)
Cau'r Ddewislen
Neidio i'r cynnwys