
Rydym yn drist iawn o glywed am farwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II.
Drwy gydol ei theyrnasiad, roedd y Frenhines yn ymwneud yn helaeth â llawer o elusennau a sefydliadau a oedd yn buddsoddi mewn cefnogi pobl ifanc. Roedd yr hyrwyddo a'r gefnogaeth a ddarparwyd trwy amrywiol nawdd y Frenhines yn rhoi cyhoeddusrwydd hanfodol i waith sefydliadau'r sector ieuenctid, gan ganiatáu i'w cyflawniadau a'u cyfraniadau enfawr i gymdeithas gael eu cydnabod.
Mae parhau i gefnogi pobl ifanc a'r rhai sy'n eu cefnogi gan y Frenhines, drwy gydol ei theyrnasiad 70 mlynedd, yn dynodi pwysigrwydd sicrhau y gall pob person ifanc gael mynediad at gefnogaeth, arweiniad a chymorth gan oedolyn dibynadwy.
Mae ein meddyliau'n mynd at y Teulu Brenhinol yn ystod yr amser anodd hwn.