💡Chwilio am syniadau ar gyfer eich cynlluniau sesiwn?
Mae’r enghreifftiau hyn o arfer gwirioneddol wedi’u darparu i ysgogi syniadau wrth gynllunio gweithgareddau sy’n gysylltiedig â thema’r cwricwlwm Sgiliau ar gyfer Bywyd, Chwarae a Gwaith – gallwch eu defnyddio a’u haddasu i gyd-fynd â’r bobl ifanc rydych chi’n gweithio gyda nhw.Â

Enghreifftiau:
Paratoi ar gyfer gwaith
Mae gweithwyr ieuenctid yn cynnig sesiynau hyfforddi ar sgiliau ymarferol fel siarad yn gyhoeddus, ysgrifennu CV, technegau cyfweliadau swyddi, neu lythrennedd digidol. Cefnogi pobl ifanc i ennill sgiliau trosglwyddadwy trwy brofiadau ymarferol, fel gwirfoddoli yn y gymuned leol neu redeg busnes bach.Â
Coginio a Lletygarwch
Mae pobl ifanc yn dysgu sgiliau coginio ymarferol, cynllunio prydau bwyd, siopa ar gyllideb, diogelwch bwyd, a sgiliau lletygarwch. Maent hefyd yn archwilio opsiynau gyrfa mewn coginio a lletygarwch.Â