Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid yn gyfle i bawb sy'n gweithio ym maes gwaith ieuenctid, a'r bobl ifanc eu hunain, i sôn am y gwahaniaeth y mae gwaith ieuenctid yn ei wneud.
Bydd Wythnos Gwaith Ieuenctid 2025 yn digwydd o ddydd Llun 3 – dydd Sul 9 Tachwedd.
Cadwch lygad ar y gofod hwn am thema ymgyrch 2025.
Beth yw Wythnos Gwaith Ieuenctid
Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid yn ddathliad blynyddol o bopeth sy'n ymwneud â gwaith ieuenctid. Mae'r ymgyrch wythnos o hyd yn digwydd ar ddechrau pob mis Tachwedd.
Yn 2024 fe'i cynhaliwyd o ddydd Llun 4ydd – dydd Sul 10fed Tachwedd.
Bob blwyddyn mae gan yr ymgyrch thema gyffredinol i helpu'r sector i ganolbwyntio eu hymgysylltiad. Y thema ar gyfer 2024 oedd:
Hawl i waith ieuenctid i bawb – gan ddarparu dyfodol cadarnhaol i bobl ifanc.
Ysbrydoliaeth gan glwb ieuenctid Deaf Zone
Ar gyfer Wythnos Gwaith Ieuenctid 2024, fe wnaethom drefnu ymweliad â chlwb ieuenctid Deaf Zone yn Birmingham, i Fardd Llawryfog Iaith Arwyddion Prydain, Ismael Mansoor, ddysgu mwy am yr ystod o weithgareddau a'r gefnogaeth maen nhw'n eu darparu i bobl ifanc byddar a thrwm eu clyw.
Mae cyfleoedd yn cynnwys gweithgareddau diwylliannol a chymdeithasol gydag artistiaid a pherfformwyr, gan ei wneud yn lle delfrydol i ysbrydoli Ismael i greu ei gerdd Iaith Arwyddion Prydain ar thema eleni.
Mae'r fideo isod yn dangos sut mae sesiynau'n galluogi pobl ifanc, sydd yn aml yr unig berson byddar yn eu dosbarth yn yr ysgol, i gyfarfod a chymdeithasu mewn amgylchedd diogel a chyfeillgar, wedi'i hwyluso gan arweinwyr ifanc a gweithwyr proffesiynol byddar eraill.
Gwyliwch gerdd y Bardd Llawryfog Iaith Arwyddion Prydain Ismael Mansoor a ysbrydolwyd gan ei ymweliad â chlwb ieuenctid Deaf Zone.
Celfyddyd Gwaith Ieuenctid
Yn y cyfnod cyn Wythnos Gwaith Ieuenctid, fe wnaethon ni wahodd y sector i gymryd rhan yn ein hymgyrch Celfyddyd Gwaith Ieuenctid.
Cefnogwyd yr ymgyrch gan Harrison Pettman, un o brotégés Gifted Young Generation, a gyrhaeddodd rownd derfynol Britain's Got Talent; yr actores Tienne Simon, y cefnogwyd ei chymeriad, 'Bishop', gan weithiwr ieuenctid yn y gyfres BBC 3 Grime Kids a hefyd gan Fardd Llawryfog Iaith Arwyddion Prydain, Ismael Mansoor.
Dywedodd Tienne Simon :
“ Mae gwaith ieuenctid yn datgloi talentau a dyheadau pobl ifanc ar gyfer eu dyfodol, yn ogystal â rhoi cefnogaeth gweithwyr ieuenctid medrus iddynt i’w helpu i ffynnu mewn meysydd eraill o’u bywydau. Rhoddodd gweithiwr ieuenctid y gefnogaeth ddi-farn oedd ei hangen ar fy nghymeriad yn BBC Grime Kids i ddiffinio ei werthoedd a darganfod pwy oedd o mewn gwirionedd. Fedra i ddim aros i weld sut mae pobl ifanc mewn clybiau ieuenctid ledled y wlad yn mynegi beth mae gwaith ieuenctid yn ei olygu iddynt drwy ymgyrch Celfyddyd Gwaith Ieuenctid. ”
Rhoddodd yr ymgyrch gyfle i bobl ifanc sy'n cael mynediad at waith ieuenctid gydweithio i greu gweithiau celf, cerddoriaeth neu gelfyddydau perfformio eraill y gallent eu datgelu fel rhan o'u dathliad Wythnos Gwaith Ieuenctid.
Y briff oedd creu celf sy'n dangos cyfoeth yr amrywiaeth o fewn eich clybiau a'ch prosiectau ieuenctid gan gynnwys rhywedd, hil, anabledd a hunaniaeth ddiwylliannol.