Rydym yn credu bod angen gweithwyr ieuenctid gwych ym mhobman, ac rydym am ddatblygu a chefnogi cynnig hyfforddiant proffesiynol cynhwysfawr iddynt lle bynnag y bônt.
Bydd yr arolwg hwn yn ein helpu i gasglu data cywir am amrywiaeth o bethau sy'n ymwneud â'r Gweithlu Gwaith Ieuenctid, hyfforddiant a chymwysterau; Beth yw'r galw am Weithwyr Ieuenctid cymwys? Pa lwybrau at gymwysterau sydd fwyaf defnyddiol? A oes gwahaniaethau ar draws rhanbarthau? Bydd y data yn ein cefnogi i ddangos y galw am weithwyr ieuenctid cymwys, i'n helpu i ddatblygu mwy o gyrsiau hyfforddi ar Lefel 3 a lefel gradd/meistr, prentisiaethau, ac i'n helpu i sicrhau buddsoddiad.
Os ydych chi'n ddarparwr gwasanaethau ieuenctid neu'n gyflogwr, cefnogwch ni i gasglu hyn drwy gymryd eiliad i lenwi'r arolwg, ni ddylai gymryd mwy na 15 munud i'w gwblhau.
(Dyddiad cau Mai 31ain)