đź’ˇ Chwilio am syniadau ar gyfer eich cynlluniau sesiwn?Â
Mae'r enghreifftiau hyn o arfer gwirioneddol wedi'u darparu i ysgogi syniadau wrth gynllunio gweithgareddau sy'n gysylltiedig â thema'r cwricwlwm iechyd a lles – gallwch eu defnyddio a'u haddasu i gyd-fynd â'r bobl ifanc rydych chi'n gweithio gyda nhw.Â
Enghreifftiau:
Prosiect/gweithgaredd Bwyta'n Iach :
Meithrin sgiliau bywyd, byw'n annibynnol a sgiliau cyllidebu, dewisiadau bwyta iachach, er mwyn datblygu gwell ymwybyddiaeth/dealltwriaeth o hylendid bwyd, glendid sylfaenol a dealltwriaeth o iechyd a diogelwch.Â

Argymhellion ymgyrch addysg :
Mae pobl ifanc yn gwneud argymhellion i wella cwricwlwm ABCh yn eu rhanbarth. Cynnal ymchwil a chyflwyno i'w hysgolion, iechyd cyhoeddus neu gynghorwyr polisi.   Â

Sesiynau bocsio/ffitrwydd :
Gweithgaredd i ymgysylltu â phobl ifanc a chefnogi datblygiad perthnasoedd a hunanddisgyblaeth. Mae rhaglenni o'r fath hefyd yn cynyddu ffitrwydd corfforol a lles meddyliol a gallant arwain at fwy o hyder a myfyrdod. Â
Gweithgareddau awyr agored cynhwysol :
Wedi datblygu anturiaethau awyr agored ar y cyd â phobl ifanc i sicrhau bod gweithgareddau fel padlfyrddio, beicio, crefftau gwersylla a chyfeiriannu/geocaching yn ymateb i anghenion pobl ifanc ag anableddau.Â