Neidio i'r prif gynnwys
chwilio

Cyflwyniad i Ymgysylltu â Phobl Ifanc

Mae'r cwrs yn cynnwys tair uned hunanarweiniol sy'n cael eu hasesu wrth i'r cwrs fynd yn ei flaen:

Egwyddorion sut i ymgysylltu â phobl ifanc
Yn yr uned hon, bydd dysgwyr yn archwilio'r damcaniaethau a'r egwyddorion y tu ôl i ymgysylltu â phobl ifanc er mwyn cael gwell dealltwriaeth ohono a'r gwahanol fodelau cyflwyno ac ymgysylltu. Mae hyn yn berthnasol i sicrhau bod dysgwyr yn gallu cymhwyso eu gwybodaeth newydd yn eu rolau wrth ymgysylltu â phobl ifanc.

Ymarfer Diogel o fewn Lleoliad Ieuenctid – Y Pethau Sylfaenol
Yn yr uned hon, bydd dysgwyr yn adolygu sut mae polisïau, arferion a gweithdrefnau wedi'u cynllunio yn eu gweithle i sicrhau iechyd a diogelwch a diogelu. Bydd dysgwyr yn archwilio pam mae ffiniau proffesiynol yn bwysig i'r rhai sy'n gweithio gyda phobl ifanc a sut i gynnal y rhain yn eu rolau.

Sut i Ymgysylltu â Phobl Ifanc yn Eich Cymuned Leol
Yn yr uned hon, bydd dysgwyr yn archwilio eu hardal leol eu hunain a'r materion allweddol sy'n effeithio ar y bobl ifanc sy'n byw yno. Byddant hefyd yn cael y cyfle i ddatblygu dealltwriaeth o sut i ymgysylltu'n well â phobl ifanc ynghylch y materion hyn.

Math o Ffeil: www
Categorïau: Cyrsiau Achrededig, Cyrsiau DPP
Tagiau: £150 (gan gynnwys TAW)
Cau'r Ddewislen
Neidio i'r cynnwys