Neidio i'r prif gynnwys
chwilio

💡 Chwilio am syniadau ar gyfer eich cynlluniau sesiwn? 

Mae'r enghreifftiau hyn o arfer gwirioneddol wedi'u darparu i ysgogi syniadau wrth gynllunio gweithgareddau sy'n gysylltiedig â thema'r cwricwlwm lles economaidd ac ariannol – gallwch eu defnyddio a'u haddasu i weddu i'r bobl ifanc rydych chi'n gweithio gyda nhw. 

Enghreifftiau:

Rhaglen y tîm :
Mae sesiynau rheoli arian a chyflogadwyedd yn annog pobl ifanc i wneud penderfyniadau ariannol cadarnhaol, rheoli arian a pharatoi ar gyfer cyflogaeth.  

'Beth yw'r gost/faint rydyn ni'n ei wario yn y clwb' :
Pobl ifanc sy'n ymwneud â rheolaeth ariannol clwb ieuenctid, faint mae'n ei gostio i'w redeg – adnoddau/gweithgareddau, rheoli tanysgrifiadau, cyllidebu a phrynu. 

Arweinwyr ifanc :
Gwirfoddoli ar gyfer y gwasanaethau ieuenctid, datblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth mewn amgylchedd gwaith a chael achrediad.  

Symud allan:
Rhaglen llythrennedd ariannol – dysgu am dai, asiantau tai, morgeisi, rhent, cymorth ariannol a dewisiadau amgen i dai wrth baratoi ar gyfer byw’n annibynnol gan ddefnyddio sgiliau digidol a sut i gael mynediad at wybodaeth o ffynonellau dibynadwy. 

Cau'r Ddewislen
Neidio i'r cynnwys